Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■ Pulpud Cpmru* Rhif 209] h\\ GÖRPHENAF, 1904. [Cyf. XVIII. " Ydwyf yr Hwn Ydwyf." Gan y diweddar Barcb. LEWIS EDWARDS, D.D., Bala. "ADuw a ddywedodd wrth Moses, Ydwyf yr hwn Ydwyf.''—Ex. iii. I4; ID oes dim yn fwy tueddol i feddwî dyn llÿ-- gredig nac achwyn, ac nid oes dim yn fwy croes i Ysbryd Duw. Y feddyginiaeth oreu rhag ysbryd grwgnachlyd ydyw cymdeithasu líawer a'r Ärglwydd. Pe baem ond cym- deithasua dynion dysgedig, yn eu hysgrifen- iadau, fe ddeuwn i weled yn fuan ein bod yn llai nac ydym wedi meddwl. Mi ddymun-- wn roi hyn o gyngor-i bobl ieuainc, os byddwch yn cael eich temtio i feddwi eich bod chwi yn gwybod ryw faint, darllen- wch waith dynion da. Ond y feddyginiaeth anfTaeledig rhag ysbryd grwgriachlyd ydyw cymdeithasu llawer iawn a'ri Arglwydd. Dyma lle yr awn ni yn fwy na choncwerwyr, dyma lle y mae pawb ar yr un tir; nid oes dim gwahaniaeth yn y fan yma rhwng credadyn ucheì a chredadyn isel. Mae yn bosibl i rai fod yn nes at Dduw nac eraill mewn sanct- eiddrwydd ; ond nid oes neb yn fwy agos at Dduw mewn mawredd, nid yw yr angel ddim nes na ni yma heno.i Y, mae y gwahaniaeth, a'r pellder rhwng y credadyn uchel a: Duw mor fawr,. mae pöb pellder yn darfod, yn dod i'r dim, O! yr ydým ni yn myned yn bethau bach iawn, "anifeiliaid ydym yn ei olwg ef." Wrth geisio dweyd am dano, ac wrth wrando gadewch i ni gofio fod Duw yn uchel, nid siarad am