Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pulpud Cpmfu*> Rhif 207.] 0 MAI, 1904. [Cyf. XVIII Âdnabod Pechod. Gan y diweddar Barch. D. CHARLES [DAYIES, M.A. Rhufeiniaid iii. 20 : " Canys trwy y ddeddf y mae adnabod pechod. YDYM yn adnabod pechod ? A ydym yn ei adnabod ynom ein hunain yn gystal âg mewn eraill ? A ydym yn ei adnabod yn y meddwl a'r teimlad yn gystal ag yn yr ymddygiad ? A ydym yn ei adnabod fel y mae yn erbyn Duw yn gystal ag fel y mae yn erbj'n dyn- ion ? A ydym yn ei adnabod íel y mae yn esgeulusdra o ddyledswydd yn gystal ag fel y mae yn gyflawniad o weithred ? Nid oes neb yn alluog i'w adnabod yn berffaith ac yn drwyadl ond Duw. O ran ei natur y mae yn anghydffurfiad â meddwl ac ewyllys Duw. Gan mai Duw yn unig sydd yn deall i berffeithrwydd pa fath yw y meddwl a'r ewyllys hwnw, Efe yn unig sydd yn adnabod yr oil sydd yn gynwysedig yn yr anghydffurfiad hwnw. Yr Hwn sydd yn deall y rheol a'r safon yn berffaith, yn unig sydd yn deall y gwyrni yn berffaith. Ond y mae yn bosibl i ddyn gyrhaedd mesur helaeth o ad- nabyddiaeth o hono. Yn ol fel y mae yn cynyddu mewn sanct- eiddrwydd, y mae yn cynyddu hefyd yn nghywirdeb ei syn- iadau am ddrwg pechod. Trwy ymdrechu yn erbyn pechod y dadguddir i'r enaid nerth y gelyn. Y mae'r Cristion a gyr- haeddodd radd uchel o sancteiddrwydd, yn adnabod pechod nes gallu gwahaniaethu rhwng pechod a gwendid. Yn ngoiwg