Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pulpud Cpmiu - :Rhif 2o6.'\qj2Â ' EBRILL, 1904. [Cyf. XVIII Dyben a Gogoniant Bywyd. Gan y Parch. D. ROWLANDS, Aberhonddu " A'r byd sydd yn myned heibio, a'i chwant hefyd : ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys J)uw, sydd yn aros yn dragywydd." I Ioan II, 17. ATC yi apostol yn yr adnod hon yn dal dau beth ar gyfer eu gilydd, er mwyn i ni ddeall y gwahaniaeth rhyngddynt, a gweled fel y mae y naill yn rhagori ary llall. Dull tra efteith- iol yw hwn i egluro unrhyw beth, yn gystal ag i'w argraffu yn briodol ar y meddwl. Pe byddem am ddangos i ddyn werth ac ar- dderchawgrwydd y goleuni, 3^ fíbrdd oreu i wneud hyny a fyddai ei arwain i ryw gwm cul lle nad yw yr haul byth yn tywynu arno, lle y mae gwywdra a marwolaeth yn teyrnasu yn mhlith y llysiau, a'r lle nas gall dyn breswylio heb fyrhau ei einioes ; ac yna ei arwain i ryw ardal ffrwyth- lawn raewn gwlad agored, lle mae yr haul yn talu ymweliad dyddiol, haf a gauaf; lle y mae y llysiau yn llawn twf, a'r blod- au yn llawn prydferthwch ; a'r lle yr ymsefydla y llesg a'r methedig i gasglu nerth ac adfer iechyd. Byddai y cyfryw gyferbyniad yn sicr o ddarbwyllo dyn ar unwaith o ragoriaeth y goleuni. Neu, pe byddem am ddangos i ddyn brydferthwch bywyd rhinweddol, yn nghyda'r dedwyddwch sydd yn wastad yn ei ddilyn, y ffordd oreu i wneud hyny a.fyddai ei arwain yn gyntaf i breswylfod yr afradlawn, i weled y trueni a'r an- nhrefn y mae gwastraff yn ei ddwyn, yn nghyda'r cwerylon, i weled y glanweithdra, yr hapusrwydd, a'r heddwch sy'n deill- iaw o'r ymarferiad o ddiwydrwydd, cynildeb, a sobrwydd.