Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif ^n/^e CHWEFROR, 1904, [Cyf. XVIII. lawn^Ddangos Crefydd. Gan y Parch. J. THOMAS, Merthyr. Y gyfraith a'r prophwydi oedd hyd Ioan : er y pryd hwnw y pregeth- ir teyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi.'' Luc xvi. 16. ^LT*R wyt ti yn gwneyd cam â gwir grefydd yny T wlad yma," meddai y Pharisead wrth y Gwaredwr ryw ddiwrnod. " Pa reswm dy fod di, yr hwn wvt yn honi bod yn ddysgawdwr i'r bobl, yn ymdroi yn mysg y rhai yr wyt ti gyda hwynt o ddydd i ddycld ? Yr wyt ti yn dangos ffafr beunydd i'r publicanod a'r pechaduriaid yna. Ddylit ti wneyd dim o'r fath beth. Dylit gadw dy hunan yn fwy anrhydeddus na hyny o lawer. Yr wyt ti yn gwneyd cam mawr â gwir grefydd yn y wlad yma ar hyd y misoedd." Llawer gwaith y cyfarchodd y Phariseaid y Gwa:edwr â rhyw frawddegau felly. Teimlent yn ddwys iawn ar y mater, oblegid aethant yn gymaint o ebyrth i'w ffurfioldeb eu hunain, fel nas gallent bellach edrych ar bethau yn eu gol- euni priodol. Tybient fod ei holl fywyd ef yn gyfeiliornad, a gweithredent yn ol hyny. Poethent, chwerwent, digient, a thywalltent allan y sylwadau mwyaf bychanus am dano. Yr ysbryd yna barodd i'r Iesu gymeryd y mater i fyny ryw ddiwr- nod, a llefaru gyda chyfeiriad ato amryw o ddamegion a geir yn y cysylltiadau yma. Gelwir hwynt " dameg y dryll arian," " dameg y ddafad a gollasid," " dameg y mab afradlon," " dameg y goruchwyliwr anghyfiawn," a " dameg y glwth gol-