Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.. Pulpud Cpmru.. Rhif 180.] RHAGFYR, 1901. [Cyf. XV. Oofal Duw yn ei Ragluniaeth a'i Ras. Gan y Parch. T. PRITCHARD, Vicer Rhos. " Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr wyt yn rhoddi iddynt eu bwyd yn ei bryd ; Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth by w a'th ew- yllys da." Psalni cxlv., 15, 16. Buddioldeb myfyr uwch byd natur—" Gofyn yn awr i'r anifeiliaid, a hwy a'th ddysgant ;ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a'th ddysg ; a physgod y mor a -hysbysant i ti." (Job xii. 7, 8.) MAE sefyll mewn myfyr pwyllog uwchben rhyfedd- odau a darpariaethau dirif natur er cyflenwi anghen- ion dyn ac anifail yn oruchwyliaeth angenrheidiol, ddyddorol, fuddiol. Er mai bod distadl yn y creadwriaeth yw dyn mewn rhai agweddau—pridd yw, ac i'r pridd y dychwel—y gwynt a â drosto ac ni bydd rnwy o hono ; eto, ar y llaw arall, y mae ysbrydoliaeth yr Hollalluog ynddo, yr hwn a'i galluoga i ddal cymundeb a'i Greawdydd, ac i feddu amgyffred meidrol am drefniadaeth doethineba daioni îlywyddiaeth Anfeidrol. Nid yw dyn, medd Pascal, ond corsen ! ond eto corsen yn gallu meddwl. Nid rhaid yw i'r bydysawd ymarfogi er ei ddinystno ; na, y dyferyn neu y gronynyn a bair hyny; ond pe yn ei ddym- chwelyd erys yn ei gwymp mewn mawrhydi mwy na mor neu fynydd. Y mae dyn yn ymwybod pan y trenga. Fel bôd meddyliol saif ar uchelder urddas, ac nid yw ond ychyd- ig îs na'r angel. " Mae disgleirdeb Duw ar enaid dyn,"