Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

. .Pulpud Cpmru.. [Rhif 179. TACHWEDD, 1901. [Cyf. XV. Yr Alwad i fod yn Effro. Gan y Parch W. DAYIES, gynt Harmony, Penfro, " A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gys- gu ; canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom.'—Rhuf. xiii. 11. ,N y benod hon yr ydym yn cael amryw o ddyled- swyddau yn cael eu cymhell ar y saint. 'Cymhell- ir hwynt yma i 'ymddarostwng i'r awdurdodau goruchel, y rhai sydd wedi eu hordeinio gan Dduw. Ni ddylid gwrthwynebu y rhai hyny sydd mewn awdurdod, ac yn llywodraethu er lles a daioni dynion a'r wladwriaeth yn gyffredinol; canys y mae y cyfryw sydd yn gwneyd felly yn gwrthwynebu yr hyn a ordeiniwyd gan Dduw ei hun. Yr ydym i ymddarostwng i'r awdurdodau hyn, nid yn unig er mwyn osgoi y gosb, ond hefyd er mwyn cydwybod. Nis gall y gydwybod fod yn dawel i beidio ofni ac arswydo, oddi eithr i ni gydnabod ac ufuddhau i'r rhai hyny sydd yn llywodraethu ac yn gwylied drosom fel gweinidogion Duw er daiorii. Yr ail ddyledswydd sydd yma yn cael ei chymell ar y saint, yw, cariad tuag at eu gilydd a thuag at bawb. " Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd.'' Nid yw yr hwn nad yw yn caru ei frawd, a charu ei gymydog fel efe ei hun, yn cyflawni y gyfraith ; canys " cyflawnder y gyfraith yw car- iad." Gan nad faint sydd o orchymynion yn y gyfraith, y maent oll yn cael eu cynwys yn y gorchymyn hwn, sef car- iad tuag at Dduw, tuag at eu gilydd, a thuag at bawb. Gwneyd hyn yn iawn yw cyflawni holl gyfraith Crist. Nìd