Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.. Pulpud Cpmru.. (Rhif 177. MEDI, 1901. [Cyf. XV, Dylanwad y naill feddwl ar y lîalL Gan y Parch. T. O. JONES, (Tryfan). " Haiarn a hoga haiarn ; felly gwr a hoga wyneb ei gyfaill." Diareb. xxvii. 17. (YN bslled ag y gwyddom ni, ffurfir y greadig- aeth o fatera meddwl. Mae y ddau yn dal perthynas mor agos a'u gilydd, fel mai an- hawdd iawn yw llinellu y terfyn rhyngddynt; ac eto mae y fath gagendor wedi ei sicrhau rhwng mater a meddwl, fel nas gall trigolion y naill diriogaeth groesi a chyínewid medd- ianau gyda thrigolion y diriogaeth arall. Ni chaed eto neb yn gallu dweyd, a hyny gyda sicrwydd, " Dyma fater wedi ymddyrchafu i dir meddwl," neu " Dyma feddwl wedi dir- ywio, ac ymollwng i dir mater." Na, mae y gagendor yn anghroesadwy hyd y dydd hwn. Mae amrywiaeth materyn •ddiderfyn bron, o'r ymenydd dynol i Iawr heibio i bob lliwa llun arno, hyd at y creigiau oesol sydd yn sylfeini i'n bryniau, ac yn íTurfiadau i'n mynyddoedd. Cyffelyb yw amrywiaeth •meddwl, o Dduw i lawr heibio i angylion a dynion, a thrwy raddau afrifed y creaduriaid byw, a lusgant eu hunain ar dic ac mewn dwr; heibio i raddau dirif yn myd y chwydd-wydr, hyd at y milyn bach ag y mae diferyn o 'ddwfr oer' yn for •annherfynol iddo. Ond er yr amrywiaeth mawr hvvn, mae gan bob un ei feddwl, yn ol gradd ei fodolaeth.