Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.. Pulpud Cpmru.. [Rhif 176. AWST 1901. [Cyf. XV. Glynwn yn eín proffes." Hebreaid iv, lá. Gan y diweddar Barch. JOHN JONES, Blaenanerch. AE yr anogaeth hon wedi ei sylfaenu ar off- eiriadaeth Crist: " Gan fod wrth hyny i ni Arch-offeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nef- oedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes." Yr oedd llawer o ofíeiriaid da wedi bod dan y gyfraith ; ond ni chafodd yr un o honynt y cymeriad hwn, offeiriad mawr, ond am Grist, y mae Efe yn cael ei alw yn Archoffeiriad mawr, ac y mae yn llanw y cymeriad ; mae mawredd personol yn perth- yn iddo—Iesu, Mab Duw ; ac felly mae mawredd ar y peth a wnaeth ; sef myned i'r nefoedd. Fel y cyfryw maeyn eis- tedd ar " ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd, yn weinidog y gysegría a'r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn." Y mae hyn yn anogaeth i ninau i lynu wrth yr efengyl a'i gosodiadau: "Glynwn yn ein proffes." Sylwn ar dri pheth,—sef, Y Broffes Gristionogol, a'i ham- can, a'i rhwymedigaethau. I. Proffes Gristionogol. Dyma y broíifes a olygir yma, sef proffes o'r efengyl, proff- es o Grist; yr hyn sydd yn golygu gwisgo ei enw, derbyn eì