Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

♦ ♦ Pulpud Cpmru .. [Rhif 175. GORPHENAF 1901. [Cyf. XV. Yr Eglwys a Drygau yr Oes. Gan y diweddar Barch JOHN THOMAS, D.D., Lerpwl. t' Ac wedi gorphen hyn i gyd, holl Israel, y rhai oedd bresenol, a aethant allan i ddinasoedd Judah, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddystrywiasant yr uchelfeydd a'r allorau allan o holl Juiah a Benjamin, yn Ephraim hefyd a Manaseh, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i'w feddiant, i'w dinasoedd." 2 Cron. xxxi. 1. AE y testyn yn cynwys adroddiad o ganlyn- iad llwyddianus y pasg cyntaf, a gyn- haliwyd ar ddechreuad teyrnasiad y brenin duwiol Hezeciah. Yn ddioed wedi ei esgyniad i'r orsedd, dechreuodd ddiddymu eilun-addol- iaeth, ac adfer gwasanaeth creíyddol y gwir Dduw. Yr oedd y pasg cyn hyn wedi ei hir esgeuluso; ond y mae Hezeciah yn penderfynu ei adferu; ac er nad oedd ar yr amser arferol, ac nad oedd yr holl buredigaethau gofynol yn cael eu cadw yn fanwl, eto, yr ydoedd y fath basg, na welwyd yn Jerusalem ei gyffelyb "er dyddiau Solomon, mab Dafydd, brenin Israel." Ni fwriedid ei gynal ond am saith niwrnod, ond cafodd y bobl y fath hwyl ynddo fel yr estynwyd ef am saith niwrnod eraill, ac felly parhaodd yr wyl am bedwar diwrnod ar ddeg, a " chyn- aliwyd hi gyda llawenydd mawr." Disgynodd y fath ysbryd diwygiadol ar y bobl, fel y penderfynasant cyn dychwelyd adref fyned allan i£ddinasoedd Judah, a gwneyd llwyr ddinystr ar yr holl leoedd a'r ofîerynau yn a thrwy y rhai yr oedd addoliad i'r eilunod yn cael ei gario yn mlaen ; a bu y