Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.. Pulpud Cpinrii.. [Rhif 173. MAI 1901. [Cyf. XV. tesu Grist y Brenin. Gan y Parch. D. DAYIES, Llandudno. Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchuf ; ac iddo y rhydd yr Arg- lwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. Ac efe a dtyrnafia ar dy Jacob yn dragy wydd ; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd, Luc i, 32. 33. R angel Gabriel a Iefarodd y geiriau hyn wrth Mair, pan yn rhagfynegi genedigaeth Iesu Grist. Cynwysant ddarluniad o nodwedd- iad y Messiah oedd y pryd hwnw ar ddyfod i'r byd. Mae y desgrifiad hwn o Grist yn ifiífìpPj^jp debyg iawn i rai o ddesgrifiadau y proffwydi *%&** A. o hono. Cymerer, er engraifft, y geiriau yn Esaiah ix 6, 7., " Canys Bachgen a aned i ni, Mab a rodd- wyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef ; a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tra- gwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd ei ly- wodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i'w threfnu hi, ac i'w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder, o'r pryd hwn, a hyd byth ;" neu eir- iau y proffwyd Jeremiah yn Jer. xxiii. 5., " Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cjfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna farn a chyfiawnder zx y ddaear." Bron yn hollol yr un fath ydyw desgrifiad yr angel yn y testyn; ond nid benthyca y syniad a wnaeth ef oddiwrth y proffwydi, eithr derbyn ei genadwri o'r un ffynonell a hwy. Gosodwyd arbenigrwydd mawr ar gymeriad brenhinol Crist, trwy anfoniad angel oddiwrth