Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

♦. Pulpud Cpmru.. Rhif 172.] EBRILL, 1901. [Cyf. XV. Yr Ysgrythyr Lan, Gan y Parch. EVAN ROBERTS, Dolgellau. _A.c i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythyr lan, yr hon sydd abl i'th wneuth- ur di yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy y flydd sydd yng Nghrist Iesu. Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddigan ysbrydoliaeth Duw,acsydd fuddioli athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyf- iawnder. Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berfTeithio i bob gweithred dda. 2 Timotheus, iii, 15—17. STYR y gair Ysgrythyr ydyw ysgrif—rhyw lyfr neu ròl wedi ei ysgrifenu i ry w bwrpas 'neu gilydd. Bu adegy gellid galw unrhyw ysgrif felly yn Ysgrythyr, ond bellach er's miloedd o flynyddoedd y mae un Llyfr wedi llwyr feddianu yr enw hwn, fel y byddai yn gabledd galw un ysgrif yn Ysgrythyr, ond yr "Ysgrythyr Lan "—Gair Duw. Weithiau arferir y gair hwn yn y rhif luosog—Ysgrythyr- au, ac weithiau yn y rhif unjgol—Ysgrythyr. Pan ddefnyddir y rhif luosog, golygir ei wahanol ranau, fel y daeth y llyfr allan ar ' lawer gwaith a llawer modd.' Pan ddefnyddir y rhií unigol golygir y Llyfr yn un cyfan, wedi ei roddi gan un awdwr dwyfol—'Yr holl Ysgrythyr.' Ar y cyntaf yr oedd y gair Ysgrythyr yn golygu yr Hen Destament. Dyna feddyliai Iesu Grist pan ddywedai *' Chwiliwch yr Ysgrythyrau;" a dyna feddwlj Paul yn y testyn, "Aciti er yn fachgen wybod yr Ysgrythyr lân." Ond yn gynar ar yr oes Apostolaidd dechreuwyd galw rban- au o'r Testament Newydd yn Ysgrythyrau. Mae Pedr cys-