Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pulpud Cpmru. TChif 171.] MAWRTH, 1901 [Cyf. XVI. Camddefnydd o'r Byd. Gan y Parch. H. JONES (W.) Lerpwl,, Yr oedd rhyw wr goludog, ac a wisgid a phorphor a llian main, ac yr oedd yn cymeryd byd da yn helaethwych beunydd : Yr oedd hefyd rhyw gardotyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, Ac yn chwenychu cael ei borthi a'r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gwr cyf oethog ; ond y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. &c. &c Luc. xvi, 19—31. ID yw pawb yn gallu cytuno parthed rhywogaeth yr adran hon oaddysglesu Grist. Myn rhai mai hanes ydyw, tra y myn eraill gyda llawn cymaint o eiddigedd mai dameg ydyw. Ond nid yw penderfynu hyny o gymaint pwys, oblegyd fod yr adran yr un mor gymhwys fel moddion cyflead addysg yn ol y naill syniad a'r lla.ll. Os hanes ydyw, y mae yn ddesgrifiad o'r hyn a fu ; ond os dameg ydyw, y mae yn ddesgrifiad o'r hyn a all fod. Mae pob gwir ddameg, y fath ag ydoedd holl ddamhegion yr Arglwydd Iesu, yn fíyddlawn i'r egwyddorion a'r deddfau hyny sydd yn ymddadblygu mewn amgylchiadau, fel ag y rhaid fod ei ddamheg- ion ef yn gyfryngau mor sylweddol, mor rea/, i gyfleu addysg a phe buasent yn hanesion. V pwnc mawr i ni ydyw dyfod o hyd i feddwl arweiniol yr adran. Y mae yn eglur, fodd bynag, fod perthynas agos cydrhwng yr adran hon a'r ddameg flaenorol. Y mae wedi ei llefaru ar yr un achlysur, yn yr un lle, ac ar yr un adeg; ac y mae hyny yn ein harwain yn naturiol i benderfynu fod perthynas agos rhyngddynt. Gwir y ddame^ ydyw " iawn ddefn.