Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

167.] TACHWEDD, 1900. [Cyf xiv. Undeb a Chríst. Gan y diweddar Barch. R. S. WILMAMS, Dowlais. -o- "Canysyrhwn sydd yn sanctciddio a'r rhal a sancteiddir, o'r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr, gan ddywedyd, Myfl a fynegaf dy enw di i'm brodyr: yn nghanol yr eglwys y'th folaf di. A. thrachefn, Myfl a fyddaf yn ymddiried y«ddo. A thrachefn, Wele fi a'r planta roddes Duw i mi." Heb. ii. 11—13. IESU Grist y priodolir y gwaith o sancteiddio yn y testyn, "yr hwn sydd yn sancteiddio." A phan gysylltir y gorchwyl ag enw yr Iesu yn yr Ysgryth- yrau, y mae iddo un o ddau ystyr, cyfrifol a gweith- redol. Mae awenau pob llywodraeth wedi eu cy- flwyno i ofal yr Iesu, mewn trefn iddo gario yn mlaen yn weithredol ar y galon a'r cymeriad yr hyn a wnaed yn gyfrifol ar Galfaria. "Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear," a diameu fod yr Ysbryd Glan yn rhywle o fewn terfynau y fath awdurdod eang, i'w aníon i breswylio ynddynt i'w puro, eu gwella, a'u glanhau, nes o'r diwedd eu troi ■" i'r un fíurf a delw ei Fab ef." "Yr hwn sydd yn sancteiddio." 41 A'r rhai a sancteiddir." Edrycha y gair ' sancteiddir' yn mlaen i'r dyfodol pell. Nid ydyw gwaith gras yn debyg o ddyfod i der- fyniad buan. Rhaid teithio trwy lawer o oesau a gwledydd wrth ei olrhain i'w darddbd, a sefyll o honom yn mharadwys i sylîu arno yn cael ei agor. Ac rrìae miloedd lawer wedi cael eugwneyd yn gyíoethogion byth tuag at Dduw drwy y bendithion a dder- byniasant o hono; eto, mae y gwaith yn para yn gyfiawn o nerth a bywiogrwydd, heb argoel fod y trysorau yn darfod nag yn lleihau. "Gan godi y tlawd o*r llwch a'r angenus o'r domen