Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i66.] HYDREF, 1900. [Cyf xiv. Credu yn Nuw. Gan y Parch. GRIFFITH PARRY, Carno. -o- ' Xa thralloder eich ealon ; yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof flnnau hefyd." Ioan xiv. 1. jYMA y gair cyntaf yn nghyfarchiad yr Arglwydd Iesu i'w ddysgyblion o'i gyfarchiad olaf cyn eu gad~ ael. Fe lefarodd ein Harglwydd y cyfarchiad hwn, ac fe ofifrymodd y Weddi fawr Archoffeiriadol yn yr oruwch-ystafdl ar ddiwedd yswper—rhwng y swper a'r cyfarchiad. Dyma broflad y dyn Crist Iesu yn ymyl marw, ei eiriau diweddaf wrth fyned i mewn i'w ddioddefaint a'i angeu, ac y mae wedi eu gadael yma, yn yr eíengyl hon i ni, ac yn gymun-rodd i'w eglwys hyd ddiwedd am- ser. Feallai, fy nghyfeillion, mai dyma ydyw y rhan hynotaf o'r Ysgrythyr—yr ymddiddan olaf hwn a'i ddisgyblion, a hwnw yn dibenu yn yr ymddiddan goruchel a'i Dad. Dyma yr ystafell fwyaf gysegredig yn holl Deml Dadguddiad. Os Efengyl Ioan ydyw y Cysegr, y penodau hyn ydyw y Sancteiddiolaf. Yma y mae y Shecinah yn tywynu ar ddirgelion y Prynedigaeth. Y mae Luther yn gwneyd sylw, fod yr ymddiddan olaf hwn yn hynod am diddanwch a gwirionedd. Y diddanwch cryfaf, mwyaf mewnol a fedd Cristionpgaeth—un sydd yn cyfarfod â holl angen athral! od dyn, a'r gwirioneddau dyfnaf yn eu hagweddau mwyaf dwyfol. Ac y mae y naill yn tarddu o'r llall. Yn y gwirionedd y mae defnydd y dyddanwch. Fe osodir allan y gwirionedd yma yn ei seiliau tragwyddol—gwirionedd wedi ei sîcrhau yn y nefoedd, ond