Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

163] GORPHENAF, 1900. [Csf. xiv Dsm Bywyd i Droseddwr mewn Deddf. Gan y Parch. B. HUMPHREYS, Felinfoel. 'Canys yr wyf fì trwy y ddeddf wedi marw i'r ddeddf fel y byddwn fyw i Dduw. Mi a groeshoeliwyd gyd â Christ : eithr byw jjydwyf; eto nid myfi, ond Cristsydd yn byw ynoffi : a'r hyn yr ydwyf yr awrhonynei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a'"m car- odd, ac a'i dodes ei hun drosof fi. Nid wyf yn dirymu grâs Duw : canys os o'r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer." Galatiaid ii., 19—21. .EILW Bengel yr adnodau hyn yn "sylwedd a mér Cristionogaeth." Cawn ynddynt dalfyriad o'r Epis- "*** tol at y Rhufeiniaid, a'r llythyr hwnv; yw yr esbon- iad goreu arnynt. Swm eu dysgeidiaeth yw, fod dyn i gael ei gyfiawnhau "drwy fíydd Crist ac nid trwy weithredoedd y ddeddf." Yn ysgrifeniadau Paul defnyddir y ga.\r deddf yn aml gyda'r fannod, ond yn amlach hebddi; sonir am "ddeddf," ac am "y ddeddf." Pan leferir am "y ddeddf" cyfeirir fynychaf at oruchwyliaeth Moses, a golygir y sefydliad Iuddewig yn ei gyfanrwydd (pen. iii. 19, 24.) Cawn y gair deirgwaith yn adnodau y testyn, a phob tro, fel y daethant o law yr Apostol, heb y fannod, ac feîly yn golygu "deddf "—deddf yn yr ystyr fwyaf eang. Canfyddai Paul y tucefn i Iuddewiaeth egwyddor fawr gyffredinol, yr egwyddor o "gwna hyn a byw fyddi"; ac wrth lefaru am yr egwyddor hon, yr oedd ei lygad yn ddiau ar ddeddf Moses, deddf ei wlad a deddf ei Dduw: eithr Jlefara am dani, nid fel deddf Moses, ond fel deddf; o ganlyniad, y mae yr hyn a ddywed yn wirionedd am unrhyw ddeddf, ac am bob deddf. A'r hyn sydd yn rhoddi arwyddocad presenol a bythol i epistolau Paul yw, eu bod yn