Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FiiiisröF® eirMmtîe IÉ . " "* •* ** ** ** 162] MEHEFIN, 1900. [C\f. xiv %» Éi É> «» *> tJk »* Ìt •> jt* ■» *» ** »* t* ** **> •* *» ti «> »Ì «>■ ' Anrhydedd a Gogoniant y Saint. Gan y Diweddar Hybarch SAMUEL DAYIES, Lerpwl. Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nii amlygwyd eto beth a fyddwn : eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo ; oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae. 1 Ioan iii. 2 EDI ymddangosiad Mab Duw mewn cnawd yn mhlith dynion ar y ddaear hon, cyfrifwyd ef y " di- ystyraf o'r gwyr, yn warthrudd dynion, a dirmyg y bobl:" cafodd ei gasâu, ei erlid, a'i roddi i farwol- aeth waradwyddus y groes : ond, er hyny, yr oedd yn etholedig gan Dduw a gwerthfawr; ond yn awr y mae wedi ei dra ddyrchafu goruwch pob tywysogaeth, ae awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth ; a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw, wedi eu darostwng iddo ef. Yn y byd hwn y mae canlynwyr yr addfwyn Iesu yn cael rhan o'r un anmharch a dirmyg ag a gaíodd eu Harglwydd o'u blaen hwynt; óblegìd hyn, nid edwyn y byd chwi, ohlegid nad adnabu efe ef. Nid yw y byd dall ac annuwiol yn gweled urddas a mawredd meibion Duw. Y mae saint y Goruchaf yn y byd hwn mewn tylodi, cystuddiau, a gwaradwydd, yn debyg i berlau wedi eu cuddio yn y llwch; ond y mae dydd yn dyfod pan y cyfyd Duw hwy o'r llwch, ac a'u gesyd ar shelffoedd tragwyddol y nefoedd, er rhyfeddod i angylion, er rhyfeddod iddynt eu hunain, er rhyfeddod i'w gílydd, er eu kannhraethol a'u tragwyddol anrhydedd a'u dedwyddwch, ac er mawl a gogoniant i'w ras ef. Ond i ba raddau o ogoniant a mawredd y dyrchefir hwy yn y nefoedd ? Nid amlygwyd eto yr holl bethau neillduol a berthyn- ent i'r sefyllfa ogoneddus sydd i ddyfod ; ond mewn ffordd gytt-