Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'OT CTMIÎI, 158.] CHWEFROR, 1900. [Cm xiv. »r *r ww ww V9 w' Rhyddid yr Efengyl. Gan y P^rch. D. ROWLANDS (Dewi Mon,) Aberhonddü. 1A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rfcyddha chwi." Ioan viii. 32. , "T ~JÇ ~T RTH graffu ar eiriau y testyn, gwelwn ei fod yn ; V V cynwys tri pheth arbenig—gwírionedd, gwy- bodaeth. rhyddid—a dyma, o bosîbl, y tri pheth pwysicaf yn eu perthynas â ni fel deiliaid o lywod- raeth foesol Duw. Fyddai dim, gan hyny, yn fwy manteîsiol i ni na meddu syniadau cywir am y pethau hyn—deall y berthynas sydd rhwng y peth- au hyn a'u gilydd, ac yn enwedig amgyfTred y ber- hynas sydd rhwng y pethau hyn a nì. A phan ddywedaf fod y pethau hyn yn nglyn â'n hiachawdwriaeth—yn dal perthynas a dedwyddwch tragwyddol ein heneidiau—feallai y caf eich sylw di- frifolaf atynt am ychydig amser. Gwirionedd,gwybodaeth,rhyddid Wn i ddim yn iawn sut i alw y pethau hyn. Gallwn eu galw yn egwyddorion ; ac fel egwyddorion y maent y dyfnaf y gall y meddwl dynol byth ymwneyd â hwy. Gallem eu galw yn allu- oedd ; ac fel galluoedd y maent y cryfaf yn Ymerodraeth yr An- feidrol. Gallwn eu galw yn feddianau ac fel meddianau y maent y gwerthfawrocaf y dichon dyn byth eu hetifeddu. Gwirionedd, gwybodaeth, rhyddid. Sylwn yn awr ar *y drefn yn mha un y mae y naill yn dilyn y llall yn y meddwl. Gwirionedd;—dyma beth tragwyddol, digyfnewid, ac annibynol; ar hwn y mae y meddwl yn gweithredu pan yn cyr-