Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD'CYMRU: Rhif 156.] RHAGFYR, 1899. [Cyfrol XIII. RHYFEL—Goddefíad a Gw&harddiad. Gan y Parch. B. DAVIES, Trelech. Pan warchaech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela i'w herbyn i'w hennill hi, na -ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys o honynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (o herwydd bywyd dyn yw prcn y maes), i'w gosod yn y gwarch-glawdd. Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnw a ddifethi ac a dori ; ac a ad- ■eiletti wareh-glawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel a thi, hyd oni orch- fyger hi. Deuteronomium xx., 19. 20. MAE rhanau helaeth o Air Duw yn anesboniadwy oddieithr i ni geisio eu deall yn ngoleuni amgylchiadau a nodweddion yr amseroedd yn y rhai y cymerodd pethau y cyfeirir atynt le. Ni ellir disgwyl fod dynol- iaeth yn y naill oes yn meddu ar syniadau mor gywir am wirionedd a rhwymedigaeth foesol ag y bydd dynol- iaeth mewnoesddiweddarach; oherwydd gwahaniaetha oesau mewn gwybodaeth a diwylliant, yr un modd ag y gwahaniaetha cenhedloedd yn hynny. Yr ydym yn derbyn llawer •o'u hargraffiadau, os nad o'u syniadau, o'u hamgylchiadau, ac y mae y goleuni a feddwn yn cyfateb i fesur a helaethrwydd ein gwybod- aeth. Diffyg ystyriaeth o hyn sydd yn cyfrif am fod mor ychydig o gydymdeimlad rhyngom a'n gilydd pan y gwahaniaethwn oddi- wrth ein gilydd mewn barn ac amgylchiadau. Dirmyga y gwybodus yr anwybodus, gorthryma yr uchel yr isel, a rhodia y naill a'r lla.ll uchelderau y ddaear, gan yfed gwynt y nefoedd fel yr asen wyllt. Pan annghofia dyn ei gyfrifoldeb * Ddww fe annghofia ei ddyledswydd at ddynion, ac nid yw bendithion Duw yn ddyogel yn llaw dyn ond •cyhyd ag y cofío mai mewn ymddiriedaeth y maent ganddo. Onid oes gwahaniaethau rhwng dynionna rŷdd Duw glod i'r hwn sydd gan- •ddo am yr hyn sydd ganddo, mwy nac y deil y llall yn gyfrifol am yr hyn nad oes ganddo. Ni ddylai y naill ymffrostio yn yr hyn sydd ganddo mwy nag y dylai ymffrostio bod lliw ei groen yn wyn, ac ní •ddylai y llall aJaru oherwydd'ei fod yn amddifad o'r hyn a chwenycha^ mwy nagy dylai edifarhau oherwyddfod lliw eigroenyn ddu. Gellir yn briodol ofyn i lawer dyn hunanol, " Pa beth sydd genyt ar nas dcrbyniaist'ì" Mewn ty a adeiladwyd gan arall yr wyt yn byw;