Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD'CYMRU: Rhif 155.] TACHWEDD, 1899. [Cyfrol XIII. " Sancteiòbtaò Crtst fel cYnílun 0 Sanctetbòtafc ei bbtlYrtn>Yi%" Gan y Parch. W. JONES, M.A., Fourcrosses. "Ac cr cu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd." Ioan xvii. 19. Ŵ^ ~^\7~R WYF YN FY SANCTEIDDIO FY HUN." Cwesti\yn L sydd yn codi yn naturiol yn nglyn a'r geiriau 5§* hyn yw,—Beth yw cynwys y gair Sancteiddio pan gymhwysir ef íel hyn gan yr Arglwydd Iesu Grist ato eihun ? Y mae i'r gair mewn iaith grefyddol gyffredin ystyr eang, gall gynwys braidd yr holl waith sydd i'w wneyd ar y credadyn ar ol ei ail- enedigaeth hyd ei ogoneddiad. Ond nid yw ystyr *Beiblaidd y gair mor eang. Am y gair a geir yn yr Hen Desta- ment, yr hwn a gyfieichir weithiau yn sancteiddio ond y rhanr amlaf yn gysegru, dywed yr ieithwyr mai ei ystyr ydyw neillduo—■ choddi o'r neilldu neu ar wahan at wasanaeth Duw ; megis, " Cofia y dydd Sabboth, i'w sancteidçüo"-; sef, i'w roddi o'r neilldu i was- anaethu Duw. Sancteiddiad neu gysegriad Aaron a'i feibion oedd ■eu neillduad at wasanaeth y tabernacl. Yn yr un modd dywedir fod aur, ariah, a dodrefn yn cael eu sancteiddio neu eu cysegru. sef eu neillduo at wasanaeth temî yr Arglwydd. Yn y Testament Newydd drachefn, rhoddir yr un ystyr i'r gair mewn lluaws o adnodau, megis, ''Pa un fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sanct- eiddio yr aur"? (Matt. xxiii. 17.) ; "Canys y gwr digred a sanct- eiddir trwy y wraig" (1 Cor. vii. 14.) ; " Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda............canys y mae wedi ei sancteiddio