Skip to main content

PULPUD'CYMRU: Rhif 154-] HYDREF, 1899, [Cyfrol XIII. Yr Ysbryd G/an Gan y Parch. DAVID JONES, Rheithor, Abererch. " A hwy oll a lanwyd a'r Ysbìryd Glan." Actau ü. L kYMUN A.F gymeryd achlysur oddiwrth yr ymadrodd yna, i wneyd ychydig sylwadau at yr Ysbryd Glan, y trydydd Person, yn yr "'ogoned, lan, fen- digaid Drindod." Afraid yw i mi ddweyd fod hwn yn bwnc mawr ac eang iawn, sydd yn gofyn sylw manwl ac ymdriniaeth faith cyn y gellir gwneyd dim tebyg i gyfiawnder ag ef. Hefyd y mae yn bwnc mor bwysig, goruchei.a dwyfol, fel mai gyda gwyleidd-dra a pharchedig ofn yr anturiaf sylwi arno. Ni ryfygaf agor fy ngenauhebyn gyntaf ddymuno a gweddio am i ni gael ei bresenoldeb yma heno, ''yn enau ac yn ddoethineb%i mi, rhag, trwy fy anwybodaeth a'm hanystyrìaeth i mi ddweyd dim yn ysgafn neu ynfyd, neu mewn ysbryd amhriodol. Yr %yf ytí! argyhoeddedig er's cryn amser bellach nad ydym yn y dyddiau presenol yn talu sylw dyladwy i'r Ysbryd Glan a'i waith. Fy nghred yw, mai angen mawr yr Eglwys yn gyffredinol yn ogystal a phob aelod o honi yn bersonol y dyddiau hyn yw cael tywalltiad helaethach o hono arnom. Pe gofynid i mi beth yw prif ddiffyg yr Eglwys yn ein gwlad-, atebwn, heb y petrusder lleiaf, mai diffyg ysbrydolrwydd, diffyg teimlo presenoldeb Glan Ysbryd Duw yn ein plith. f Mae yr Ysbryd, dylem gofio, yn ei Eglwys; mae yn pres- wylio yn bersonol ynddi byth er dydd y Pentecbst syn Jerusalem, a'r hyn ddylem ni weddio am dano yw cael sylweddoli hyny a ** '•■'■•■■