Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD*CYMRU: Rhif 152.] AWST, 1899. [CyfrolXIII. Ffydd Abraham. Gan y Diweddar Barch. E. EVANS (W.,) Bangor. "Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd : a'i unig anedig fab a .offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasaÌA'r addewidion : Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had: Gan gyfrif bmì Duw yn abl i'w gyfodi ef o feirw ; o ba le y .cawsai efeef hefydmewn cyft'elybiaeth." Heb. xi. 17—19. % IV JT AE ffydd mor naturiol i ddyn a gofìd, cariad, neu 4ì JLV-L ddigofaint. Dyma ydyw un o'r blodau sy'n tori allan gyntaf yn yr enaid. Mae'n gwenu ar wyneb y fam yn ngryd y baban, ac yn byw trwy holl stormydd bywyd, heb farw nes y daw marw i gyfarfod ei pherchenog. Ar wyneb plentyn a adawyd gyda dieithriaid, am amser, i gael ei gof- leidio yn eu mynyres, a'i ddifyru gan eu gwenau, y .gwelwyd cwmwl yn casglu ac yn duo, nes o'r diwedd dori yn gawod o.ddagrau. Mae y fam yn dychwelyd, a phan mae y breichiau bychain gorawyddus yn cael eu hestyn allan, gwelaf freichiau frydd, a phan y bydd, fel credadyn yn mynwes ei Dduw, wedi cyraedd breichiau caredig ei fam, aiff y cwmwl ymaith oddiar yr ael drallodus, a gwelir gwenau yn ei lygaid, a dedwyddwch yn ei fynwes yn lle dychryn. Dyma lle y gwelir nerth a dylanwad ffydd. Dyma un o'i ffrwythau cyntaf, ac mor bell ac y mae natur yn gallu myned, y prydferthaf hefyd. Mor naturiol ydyw ffydd i ni, nes y mae plentyn yn credu pobpeth ddywedir iddo, hyd nes yr ysgydwir ei ymddiried gan brofiad o ansicrwydd cywirdeb y natur ddynol. Bydd ei lygaid yn syllu ar ryw bethau o hyd, naill .ai prydferthwch rhyw blanigyn yn llawn blodau, neu yr adar sydd yn hedeg dros ei lwybrau, gan berswyno ei glyw, neu'r nefoedd