Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD'CYMRU: Rhif 151.] GORPHENAF, 1899. [Cyfrol XIII. " Y Gvt,r Goludog." Gan y Parch. D. POWELL. Lerpwl. Luc xri, 19—31. |YNOETHIAD gonest achondemniad didrugaredd yw dameg y gwr goludogo hunangarwch ac hunan- fwyniant y Phariseaid ariangarol ac anystyriol. Pro- fìesentgariad at Dduwa'u caionau mewn caethiwed i Fammon. Ymffrostient mewn dyngarwch, trayn ymgolli mewn hunangarwch. Ymddangosent i'r byd yn cystuddio eu heneidiau mewn ympryd a gweddi, tra yn ymfwynhau yn eu gwleddoedda'ugloddest gnawd- ol. Yr oedd eu holl fywyd yn llawn o anghysonderau, twyll, a rhagrith. Dynoethai ein Harglwydd eu rhagrith a dadguddiai hagrwch eu gwir gymeriad. Ond cynwysa'r dynoethiad didrugaredd rybudd difrifol. Defn- yddiai Iesu fesurau eithafol i geisio argyhoeddiy Phariseaid o ddi- wedd anocheladwy ac andwyol eu bywyd hunangarol, a'u troi o'u rhagrith i gyfiawnder. Mesurau eithafol.y Meddyg da ydyntyn ei ymdrech i achub eneidiau sydd bron myned dros derfynau gobaith yn eu hafiechyd moesol. Ceisiai eu hadferyd i ymwybodolrwydd a theimladrwydd moesol, fel y gallai weithreduarnynt i'whadferyd i wir fywyd a gweithgarwch sanctaidd. Mae barn yr Arglwydd ar y Phariseaid yn wir drugaredd. Llecha cariad tu ol i gyfíawnder a gweithia drwyddo. Gwelir hyn os ystyriwn beth yw*gwirionedd canolog y ddameg. Gyda phob parch i esbonwyr a beirniaid dysgedig a galluog, ym-