Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD*CYMRU; Rhif 150.] MEHEFIN, 1899. [Cyfrol XIII. Perthynas yr Enaid a Duw. Gan Y PARCH. S. T. JONES, Rhyl. " Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw." Salm xlii. 2. " Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hyny y gobeithiaf ynddo." Galarnad iii. 24. ESGRIFIAD yw y testyn o gyflwr neu sefyllfa yr enaid. A'r hyn yr ydys yn ei ddeall wrth yr enaid ydyw, y rhan ysbrydol ac anfarwol mewn dyn. Y mae dyn felly yn cael ei wneyd i fyny o ddwy ran, neu o dan sylwedd gwahanol, sef mater ac ysbryd, corfl ac enaid Y mae rhai yn dal hefyd fod taìr rhan mewn dyn. Mae hwn yn hen syniad. Dysgai yr hen athronwyr gynt, fod dyn yn gyf- ansoddedig o gorff, enaid, a rheswm. Amddiffynwyd yrunsyniad gan eraill mewn cyfnodau diweddarach, ac y mae wedi cael ad- gyfodiad i fywyd eto yn ein dyddiau ni. Hwyrach fod dau beth yn cyfrif am hyn, sef, yn gyntaf, tuedd yr oes i athronyddu holl wirioneddau crefydd ; ac yn, ail, fod tri gair yn cael eu defnyddio yn y Beibl mewn perthynas i ddyn, sef corff, enaid, ac ysbryd. Ceir y geiriau hyn yn aml ar wahan, ac weithiau yn gysylltiol a'u gilydd, megys >n yr ymadroddion canlynol:— " Cadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff." " Hyd wahaníad yr enaid a'r ysbryd." Yr esboniad cyfíredin ar y geiriau ydyw, fod corff yn golygu y rhan faterol o'n mewn ; enaid, egwyddor ein bywyd anifeilaidd; ysbryd, egwyddor ein bywyd ysbrydol ac anfarwol.