Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD«CYMRU: Rhif 147.] MAWRTH, 1899. [Cyfrol XIII- Addutno Athrawiaeth Gras. Gan y Parch. W. CAENOG JONES, Tregarth. " Fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr yn mhob peth." Titus ii. 10. HAN o gyfarwyddyd Paul yr henafgwr profiadol, i Titus y gweinidog ieuanc, gyda golwg ar y gwaíth mawr a phwysig o bregethu, ydyw y geiriau hyn. Cyngora ef uwchlaw pob beth i ofalu am roddi ymborth iach i'w wrandawyr, "Eithr llefara di y pet'nau a weddo i athrawiaeth iachus." Nid oes gan weinidog Crist hawl i newid na chymedroli dim ar ygenadwri a ymddiriedwyd iddo; ei ddy- ledswydd ydyw cyhoeddi yr athrawiaeth yn ei phurdeb a'i chyfan- rwydd gan adael y canlyniadau yn Jlaw Duw. Anoga Titus hefyd i bregethu yn ymaferol gan gymwyso egwyddorion mawr yr efengyl at fywyd ac amgylchiadau pob dosbarth yn ei gynulleidfa. Dylai ddysgu hynafgwyr yr eglwys i feithrin y nerth a'r cyd-bwysedd cymeriad hwnw ag sydd yn gweddu i'w hoedran a'u safie. A'r hynafwragedd yr un ffunud i ymddwyn fel y gweddai i sancteiddrwydd, fel y byddai eu bywyd yn athrawiaeth o ddaioni i bawb a'i darlleno. Rhaid fod ganddo air arbenig i'r gwragedd, a'r gwyr ieuainc hefyd, a gofaled y pre- gethwr ieuanc "ddangos ei hun yn mhob peth yn esiampl i weithredoedd da," os yw am i'r weinidogaeth gario dylanwad ar ei gyfoedion. Nid oedd i esgeuluso y dosbarth iselaf a gwaelaf yn «•ei gynulleidfa chwaith—y gweision—neu y caethweision fel y