Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPÜD*CYMRU: Rhif 146.] CHWEFROR, 1899. [Cyfrol XIII. Líety Glan-yr-afon. Gan y Pabch. JOHN ROBERTS, Corris. -------o------- " Lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd." Josua iii. 1 {y frawddeg olaf.) *vrfM( "^•■^ a^egau pwysig yn hanes pawb yn y byd yma. Ac ^fljT/N £ y mae adegau mwy pwysig na'u gilydd heíyd yn hanes pawb—yn hanes pob dyn, yn hanes pob teulu, ac yn ^T hanes pob cenedl. Ac felly cenedl Israe]. Mae adeg- au pwysig yn hanes hon—lawer o adegau pwysig yn ei hanes. Mae yn debyg na fu yr un genedl ar ddaear Duw erioed a chymaint o adegau pwysig yn ei hanes â'r genedl hon— cenedl Israel. Mae y frawddeg a ddarllenasom yn destyn yn cyfeirio at un o'r adegau pwysig hyn—yn cyfeirio, yn wir, at un o'r adegau mwyaf pwysig yn hanes y genedl bwysig hon. Cyfeirio yr ydym yn awr at adeg diwedd teithio yr anialwch, adeg croesi yr Iorddonen, adeg dechreu troedio Gwlad yr Addewid. Dyma i chwi dri o bethau ag sydd ar unwaith yn dangos fod yr adeg hon yn adeg bwysig iawn yn hanes y genedl. Yn wir, buasai un o'r pethau hyn—cymerwch chwi yr un a fynoch o honynt, naill ai diwedd teithio yr anialwcb, neu croesi yr Iorddonen, neu dechreu troedio gwlad yr Addewid—buasai un o honynt yn gwneyd unrhyw adeg yn adeg bwysig yn hanes unrhyw un. (Ysgrifenwyd fel y traddodwyd hi yn Harlech, boreu Sabbath, Mawrtb. 36,1893.)