Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hi PULPUD CYMRU Rhif 144.] RHAGFYR, 1898. [Cyfrol XII. " Ymgysegriad i'r Arglwydd." Gan y diweddar Barch. W. R. JONES, (Goleufryn) Caernarfon. --------o-------- "Pwy hefyd a ymrydd yn ewyllysgar i ymgysegru heddyw i'r Aiglwydd," 1 Chronicl xxix. 5. AIR ar y casgliad ydyw y testyn. Y brenin Dafydd sydd yma yn ei ddweyd, ac yn rhoi ynddo hefyd. Fe roddodd Dafydd ei hun, ac y mae yn cymell eraill i wneyd yr un peth. Fe geir tri adroddiad am farwolaeth Dafydd. Hwn yw y tlysaf o lawer. Y mae yn trefnu pa fodd yr oedd pethau i fyned yn mlaen ar ol ei ymadawiad ef. Drwy ei esiampl a'i eiriol dros ieuenctid Solomon, y mae Dafydd yn peri i'r tywysogion a'r bobl offrymu yn ewyllysgar. Felly y dylai pethau fod. Yr ydoedd y Deml ar fín cael ei dechreu, Solo- mon ar esgyn i'r orsedd, a haul Dafydd ar y terfyngylch, eto y mae am i bethau fyned yn mlaen wedi iddo ef huno gyda'i dadau. Brenin yn dweyd ar gasgliad—yn cymell y bobl i roi drwy esiampl ac eiriol. Ond nid dyna y cwbl, ac nid dyna y defnydd a wnawn ni o'r adnod heddyw, ond y mae am iddynt roi eu hunain hefyd. Fe gynwys y gwirionedd fod eisiau dynion wedi cael pobpeth arall. Pa mor gyflawn bynag y trefniadau, rhaid cael dynion. Nid oes yr un peirianwâith, waeth pa mor berfìfaith, yn ddigonol heb ddynion. Yn eisiau—dynion o hyd. Er cael trysorau y gwledydd yn nghyd, er cael yr arian a'r aur, at Dy yr Arglwydd, yr oedd eisiau dynion. Mae angen cofio y gwirionedd hwn yn mhob oes .gydag achos yr Arglwydd, ac yn neillduol mewn adeg pan y mae