Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD.CYMRU. Rhif 142.] HYDREF, 1898. [Cyfrol XII. Y Pregethwr Un Bregeth* Gan y Parch. RHYS J. HUWS, Bethel, Caernarfon. " Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai y cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gyd âg ef. Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant." Marc v. 18—20. ' N nechreu y benod, cawn yr Iesu yn ngwlad y Gad- aremaid. Prin y deallai y deuddeg ambell daith o'i eiddo—mae map Gwaredwr yn llawer mwy na map disgybl. Yr oedd y deyrnas yn y byd yn meddwl y deuddeg, ond y byd yn y deyrnas yn meddwl Crist. " Arglwydd, ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel," gofynent unwaith, gan osod y deyrnas o fewn cylch pryd a chenedl; ac y mae llawer disgybl ar eu hol wedi bod yn ceisio cylchu'r anher- fynol. Araf iawn y daeth y disgyblion i sylweddoli fod byd, amser a thragwyddoldeb yn y deyrnas, Dydd mawr yn hanes gwlad yw'r dydd y daw Gwaredwr gyntaf iddi. Fedr yr un gallu byth olchi ymaith ol ei droed. Mae addewid am " ddaear