Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD'CYMRU. Rhif 141.] MEDI, 1898. [Cyfrol XII. Gwneyd y Dewis Goreu. Gan y diweddar Barch. EVAN PETERS, Bala. ' A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fl ymadaw a thi, i gilio oddiar dy ol di: canys pa le bynag yr elych di, yr af flnau; ac yn mha le bynag y lletyech di, y lletyaf flnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw inau." Ruth i. 16. AE yn amlwg wrth ddarllen y llyfr hwn fod pobl dda, yn aml, yn cyfarfod a helbulonynybydhwn. Dacw Naomi, a'i phriod, a'i dau fabyn gadael gwlad Israel am wlad Moab, oherwydd y newyn. A bu farw Elimelech, a chymerodd y ddau fab iddynt wragedd o'r Moabesau, Ruth i. 4 ; a'r ddau wr ieuanc a fuont feirw. Dyna ddwy o wragedd gweddwon gyda eu gilydd, mewn amgylchiadau purisel. Arhyw ddiwrnod y mae hysbysrwydd yn eu cyraedd, fod yr Arglwydd wedi ymweled a'i bobl, gan roddi iddynt fara. Dylem gofio mai yr Arglwydd sydd yn rhoddi bara. " Fel y dycco fara allan o'r ddaear," " Diwallaf ei tbylodion a bara," " Yr Arglwydd sydd yn rhoddi bara i'r newynog"; a cheir Naomi yn penderfynu dych- welyd i'w hen wlad. Cawn y tair yn cychwyn tua gwlad Judah, ac ar ol iddynt ddyfod am enyd gyda Naomi, y mae hi yn troi atynt ac yn anog y ddwy i ddychwelyd bob un i dy eu mam, yn diolch iddynt am eu caredigrwydd tuag ati hi, a thuag at y meirw, gan ddymuno daioni a thrugaredd i'w dilyn yn y dyfodol,—ac y