Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD'CYMRU. Rhif 140.] AWST, 1898. [Cyfrol XII. Gweddnewidiad Críst. Gan y Parch. W. WILLIAMS, B.D., Canon Trigianol Ty Ddewi. " Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt."—St. Marc ix. 8. MAE y gweddnewidiad yn hanes y Dyn Crist Iesu ar y ddaear yn ein dwyn megis i uchelfan ei fywyd. Y mae yn destyn myfyrdodau goreuon pob oes, yn bwnc sydd wedi symbylu galluoedd meddyliol dysgedigion y ddaear, ac yn olygfa oydd wedi tanio medrusrwydd des- grifiadol prif arlunwyr y byd, megis Raphael ac eraill. Y mae y digwyddiad wedi ei gofnodi gan dri o'r efengylwyr (St. Matt. xvii., St. Luc ix., a St. Marc ix.), yr hyn sydd yn profi ei bwysigrwydd ; ac mor fyw ym meddyliau dau o'r llygaid-dystion ydoedd yr hyn a welsant, fel y cyfeiriant ato flynyddau ar ol iddo gymeryd lle. Dywed St. Ioan (i. 14): " Ac ni a welsom ei ogoniant Ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddiwrth y Tad " j ac meddai St. Petr yn ei ail Epistol (i. 17, 18): " Canys Efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant pan ddaeth y cyfryw lef ato oddiwrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy anwyl Fab i, yn yr hwn y'm boddlonwyd," &c. Am na enwir y mynydd gan yr haneswyr ysbrydoledig, an- hawdd ydyw penderfynu pa un ydoedd, hyd yn oed pe byddai hyn o bwys. Yn ol traddodiad (a hyny mor foreu a'r bedwaredd ganrif)|deuwyd i'r casgliad mai mynydd Tabor ydoedd, ac felly adeiladwyd eglwys ar ei ben gan Helena, neillduwyd mynachlog-