Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD'CYMRU. Rhif 139.] GORPHENAF, 1898. [Cyfrol XII. Pethau Mawrion y Gyfraith. Gan y diweddar barchedig E. STEPHEN, (tanymarian). Mi a ysgrifenais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac íel dyeithr-beth y cyfrifwyd."—Hosea viii. 12. ^EALLAI mai y drafferth fwyaf sydd yn cyfarfod pregethwr yw dewis testyn. Weithiau mae'n methu cael yr un : bryd arall mae yn caelgormod o honynt, nes y mae yn methu dewis o'r lluaws. Mae pobun o honyntynawyddus i redeggyda'r genadwri, ac yntau fel Joabgyda Chusi,acAhimas mab Sadoc, mewn per- bleth yn ceisio penderfynu pa un sydd i redeg. Mae rhai drachefn wedi cychwyn, yn sefyll ar y ffordd, neu wedi eu galw yn ol; ac eraill yn myned, ac yn methu cludo y genadwri yn gyfiawn na haner taclus. Er fod pob testyn yn wirionedd, eto ni chynwys yr holl wirionedd. Mae yr adnod yn cludo gwirionedd, ond nid y gwirionedd, nid y peth neillduol ac angenrheidiol ar y pryd. Ac y mae llawer pwnc ac athrawiaeth, sefydliad a chym- deithas, a'u hegwyddorion a'u hysbryd yn y Beibl, eto yn lled anhawdd cael adnod sydd yn ddigon o gorfí i'r ysbryd hwnw gael dangos ei hun yn ei holl weithrediadau ynddi. Er fod eu heg- wyddorion yn ysgrythyrol a dwyfol, rhaid cymeryd yr holi Feibl yn destyn cyn y ceir stage digon o faint iddynt actio, a dwyn eu nodweddau a'u dylanwadau i'r golwg.