Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD'CYMRU. Rhif 138.] MEHEFIN, 1808. [Cyfrol XII. Perffaith Gyfraith Rhyddíd. GAN Y PARCH. J. MORGAN JONES, CAERDYDD. " Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid." Iago i. 25. X ~K T"RTH gyfraith rhyddid y golygir yr efengyl, yr y y^ iachawdwriaeth, y drefn fawr sydd gan Dduw i achub y býd, Y mae dau fath o ryddidyn bod. Un yw rhyddid cyfraith, rhyddid gorsedd, rhyddid y dyn sydd yn gwybod nad oes un achos yn ei erbyn mewn unrhyw lys, nad oes yr un waj-raní yn ymlid fel gwaedgi ar ei ol, na'r un swyddog gwladol yn ei wylio gyda chîl ei lygad, er mwyn gwybod pa le i osod ei law arno, pan fyddo yr adeg briodol i'w ddal wedi dyfod- Rhyddid y plentyn sydd ar delerau da a'i dad, ac yn gwybod na fydd na gwg na gwialen yn ei aros pan ddychwelo yn ei ol i'r ty. Y mae yr efengyl yn rhoddi y rhyddid hwn i bechadur, y mae yn ei roddi yn y cyfiawnhad, pan y mae'r Barnwr yn troi yn Faddeuwr. Y rhyddid arall yw rhyddid tumewnol. Rhyddid y dyn nad yw yn gaeth i unrhyw fiys, nad yw yn slaf i unrhyw nwyd, ond sydd a'i holl flysiau a'i nwydau o dan ei awdurdod. O bob caeth- iwed, y tostaf, y mwyaf ei gywilydd, a'i waradwydd, a'i warth ydyw hwnw, pan fyddo blysiau dyn wedi myned yn arglwyddi arno; y nwydau yn lle bod yn ufudd weision iddo, ac at ei alwad, ac yntau yn gallu eu trin fel yr oedd y canwriad hwnw yn dweyd ei fod ef yn trin ei weision ef—dweyd wrth hwn dôs, ac yntau yn myn'd, ac wrth arall tyred, ac yntau yn dod—y rhai yna, trwy gael eu boddhau