Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD • CYMRU, Rhif 137.] / MAI, 1808. [Cyfrol XII. Barnabas, y Gwr Da. GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. THOMAS, D.D., LE'RPWL. " Oblegid yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Ysbryd Glan, ac o ffydd; a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd."—Actau xi. 24. |YWEDWYD hyn am Barnabas, Cypriad o genedl, o lwyth Lefi, ac ymddengys ei fod yn wr o gryn urddas yn mysg ei bobl. Mae traddodiad, mor foreu a dyddiau Clement o Alexandria, ei fod yn un o'r deg a thriugain. Ei enw gwreiddiol oedd Joseph, ond galwyd ef gan y dysgyblion yn fab y broph- wydoliaeth, neu fab y cynghor, yr hwn hefyd a gyfieithir yn fab dyddanwch. Tybia rhai fod Saul o Tarsus ac yntau yn adnabyddus â'u gilydd cyn dychweliad y naill na'r llall, oblegid i Barnabas gael ei anfon i Tarsus i dderbyn ei addysg. Gan ei fod o Iwyth Lefi, y mae yn bosibl ei fod yn cymeryd ei ran yn ngwasanaeth y deml; ac felly ei fod wedi cael llawer cyfle i wrando yr Arglwydd Iesu Grist yn ei weinidogaeth bersonol. Yr oedd yn un o aelodau blaenaf ac amlycaf yr eglwys yn Jerusalem. Pan gyfododd yr erledigaeth fawr, yn nglýn â'r hon y llab- yddiwyd Stephan, gwasgarwyd y dysgyblion; ond dygwyddodd hyny, fel y mae yn dygwydd bob amser, "yn hytrach er llẁydd- iant i'r efengyl." "Aeth Phylip i waered i Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt;" a bu y fath lwyddiant, nes " yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hòno." Aeth rhai i Phenice, i ddinasoedd Tyrus, a Sidon, a Ptolemais; y rhai oedd sylfaenwyr yr eglwysi a gawn yn y lleoedd hyny; ac aeth rhai gwŷr o Cyprus