Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD • CYMRÜ. Rhifiö.] [yL EBRIJLL, 1898. [Cyfrol XII. Nerth Dwyfol i wneyd Gwaith Dwyfol.* GAN Y PARCH. H. CERNYW WILLIAMS, CORWEN. "Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finau hefyd tuag at y Cenhedl- oedd." Galat. ii. 8. OSODIR anghenrhaid ar Paul i brofi fod ei apostol- iaeth o Dduw. Derbyniasai ei genadwri yn uniongyrchol oddiwrth yr Arglwydd, cafodd y dwfr yn bur o lygad y ffynon, ac nid o'r ffrydiau wedi eu llygru yn y rhediad. Mantais fawr yw i bregethwr fod yn argyhoeddedig o wirionedd ei genadwri, a sicrwydd ei anfoniad ei hun. Dyn trwyadl oedd Paul, pa beth bynag a gymerai mewn llaw, dyn o ddifrif, dyn a ffeithiau mawrion bodolaeth yn fyw i'w ysbryd ef. Pan yn Pharisead o ran proffes, yr oedd yn Pharisead mewn ysbryd, nid oedd un amheuaeth ar y mater, a phan ddaeth yn Gristion, daeth drosodd yn llwyr hebadael ei galon na dim ar ol,—gwisgodd am dano yr Arglwydd Iesu fel nad oedd dîm arall yn y golwg. Nid yw pob un sydd yn newid ei blaid yn newid ei farn. Ceir rhai yn peidio, am nad oes ganddynt farn i'w newid, ac eraill yn dal at eu barn er newid eu hymddygiad, ond fe newidiodd Paul ei farn, ac yr oedd ei farn ef yn gyfarwyddyd a rheolydd ei fywyd. Newid- iodd gyfoeth am dylodi, urddas am ddirmyg, a chymdeithas ddetholedig Phariseaeth am ddilynwyr dinod Iesu o Nazareth, a * Pregeth a draddodwyd yn Nghyfarfod Blynyddol Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd.