Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPÜD'CYMRÜ. Rhif i35.] MAWRTH, 1898. [Cyfrol XII. Tystiolaeth Profiad. Gan y Parch. R. GARRETT ROBERTS (W.), Aberdyfi. 1 Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall yr wyf fi yn awr yn gweled." Ioan ix 25. ABBI, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall"? Dyma gwestiwn a ofyn- wyd gan y disgyblion i'r Iesu, pan yn edrych ar ddyn dall o'i enedigaeth, a eisteddai wrth borth y Yf£ deral yn Jerusalem : cwestiwn sydd yn datguddio nid yn unig eu hanwybodaeth, ond hefyd gyfeiliornad barn o'u heiddo, a chwestiwn sydd, yn ol rhai, yn profi fod y disgyblion yn credu yn yr " Athrawiaeth o drawsfudiad eneidiau," sef bod enaid dyn wedi ei farwolaeth, yn cael ei draws- fudo i gorff rhyw fod arall, a bod natur y corff hwnw yn dibynuar y modd yr oeddynt wedi byw yn y corff yma ; os oeddynt wedi byw yn rhinweddoî yn y corff yma, dadleuid y buasent yn cael eu trawsfudo i gorff rhyw fod dyrchafol ac anrhydeddus, ond os wedi byw yn anuwiol yma, yr oeddynt yn cael eu trawsfudo i gorff rhyw fod israddol. Dyma athrawiaeth oedd ac sydd yn nodweddiadol o holl grefyddau y Dwyrain, ac fe fyn rhai, fod y disgyblion yn credu yr athrawiaeth. "Pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall " ? " Ai.pechod o eiddo hwn mewn corff blaen- orol ydyw yr achos ei fod wedi cael ei dransportio i hen cellàỳwell, i dŷ heb yr un ffenestr fel hwn i breswylio"? Pwy a bechodd, Iesu mawr ? " Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith : eithr fel yr amlygidgweithredoeddDuw ynddo ef." Nid damwain, fel pey