Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PDLPÜD CYJftRÜ. Rhif 132.J RHAGFYR, 1897. [Cyf. XI. 2tfubbfwu yn wèll nag Abertfy* Gan y diweddar Barch. E. WYNNE PARRY, M A. B.D., Bala. 1 Aberth aó oflrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau : poeth-offrwm a phech-aberth nis gofynaist. Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod : yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd am danaf. Da genyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw : a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon. Salm xl. 6—8. ALM Dafydd y gelwir hon, a cheir ynddi ei brofiad, yn bur debyg i'r hyn a geir mewn lluaws o salmau eraill. Gallasem wybod mai salm Dafydd ydyw heb y teitl—ei lais ef a'i brofìad ef sydd yma. Rhyw brofedigaeth wedi ei ddal, rhywgyfyngder, a'i gweith- iodd i droi at Dduw am ymwared ; ac fe gafodd y waredigaeth, ond nid ar unwaith—bu raid iddo aros amser Duw. Yr oedd yr ymwared gymaint a hyny yn fwy gwerthfawr, am ei fod wedi cael ei oedi. Mae disgwyl wrth Dduw yn dda i enaid dyn. " Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd," ar ymyl y ddalen "gan ddisgwyl, disgwyliais," dyblu y gair a wneir yma, " Bum yn disgwyl, disgwyl am yr Arglwydd, ac efe a ymos- tyngodd ataf ac a glybu fy llefain." Dyna ddiwedd pob disgwyl iawn wrth Dduw. " Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau." " Cyfododd fi hefyd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd, ac a osododd fy nhraed ar graig> gan hwylio fy ngherddediad, a rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni." Ac wrth edrych yn ol ar yr amgylchiad, mae yn tynu y casgliad cyffredinol yma, " Gwyn ei fyd y gwrjla osodo yr Argiwydd yn ymddiried iddo." Yn y