Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPÜD CYJftRO. Rhif. 129. * MEDI, 1897. Cyf. XI. Dyfodiad Crist i Gadw Pechadurlaid. Gax v diweddar Barch. David Charles Dayies, m.a., Trefecca. " Gwir yw y gair ae yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd igadw pechaduriaid, o ba rai y penaf ydwyf fi." FE fuasai pawb ohonom ni, chwi wyddoch.yrrẄedaol i osod Paul yn y dosbarth goreu o bechaduriaid, os ' KSi yW yn briodol dosbarthu pechaduriaid. Yr oedd yn ddyn diargyhoedd, " yn ol y cyfiawnder sydd o'r ddeddf yn ddiargyhoedd." Heblaw hyny, "y mae genyf i ddiolch i Dduw," meddai, "yr hwn yrwyfyn ei wasanaethu o'm rhieni a chydwybodd bur." Dyna i chwi air cryf iawn, " gwasanaethu Duw o'm rhieni a chydwybod bur." Ac os oedd yn erlidiwr, cofier hyn, " Mi a gefais drugaredd am i mi fod yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth.', Fe ddywed Pedr am rai, " Pe's adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant." Mae yn ddiameu genyf fod yr un peth yn wir am Paul, Pe's adwaenasai, ni fuasai yn erlid Eglwys Crist; oblegid " mi a gefais drugaredd am i mi yn ddiarwybod ei wneuth- ur drwy anghrediniaeth." Ac y mae yr un peth i'w ddweyd arn ei waith yn erlid. Peth arall y mae yn ei jddysgu,— Yr oedd yn erlid dan deimlad o ddyledswydd. "Minau yn wir a dybiais ynof fy hun fod yn rhaid i mi "—yn y Saesneg, ei fod yn ddyled- swydd amo ; tybiais ei fod yn ddyledswydd arnaf, fod yn rhaid i mi, rhaid dyledswydd i mi, wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nazareth, yr hyn hefyd a wnaethum yn Jerusalem, a llawer o'r saint a gauais i mewn carcharau." Felly yr oedd Paul hyd yn