Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPÜD CY.MRÜ. Rhif 128.] AWST, 1897. [Cyf IX. Mordaith Bywyd. 5§ Gan y Parch. DAVID ROBERTS D.D., Wrecsam. Gan fod genyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd." 1 Tim., i. 19. AE yn ffaitfc fod ein byd ni a chyfandir mawr tragwyddoldeb, yn y cychwyn, yn ffurfio un darn nes i ruthr pechod ddod. Mae yma fôr rhyngom ni a'r lan heno. Wneiff neb mo'i bassage ar ei draed o'n byd ni i'r nefoedd. Yr ydym wedi cael nad oes dim gobaith bellach, pob cysylltiad rhyngom wedi darfod. Na, mae yr Arglwydd wedi ordeinio trafnidiaeth newydd o'r ynys yma i'r lan. Maeymacommunicat- ion eto rhwng ein byd ni a'r gogoniant trwy drefn Duw. Ffordd yna yr aeth y teulu i gyd trwy ffydd, Abel y cyntaf o honom a gollodd ei fywyd trwy ffydd. Bydd yn dda genym feddwl bod y y cyntaf o'n teulu fu farw wedi myn'd i'r nefoedd; well gen i mai Abel fu farw gyntaf ac nid Cain, yr wyf yn gobeithio mae yno yr â yr olaf hefyd. Os cadwyd Adda, trwy fíydd y gwnaed, er bod y Beibl yn ddistaw iawn gyda golwg ar gadwedigaeth Adda, ond yr wyf yn meddwl y gwnawn ni i gyd gydsynio i roi benefit o ddistawrwyád y Beibl iddo. Gan fod y Beibl yn ddistaw, gwell genyf fi feddwl ei fod wedi ei gadw, gwell genym fod Adda ar gael, ac Efa hefyd; ond hyn, os cadwyd Adda, trwy ffydd y gwnawd fel nad oedd ei gadwedigaeth mewn un ystyr yn ddim help i'n cadwedigaeth ni. Mae cadw yn beth personol. Mae gwahaniaeth îhwng y cyntaf a'r ail Adda. Daeth yr Adda cyntaf i lawr ac fe'n