Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

POLPUD CYARU. Rhif 126.] MEHEFIN, 1897. [Cyf. XI. Pwy sydd ar du yr Arglwydd ? Gan y diweddar Barcii Ebenezer Richards. " Pwy sydd ar du yr Arglwydd ? deued ataf fi." Exodus xxxii. 26. SGRIFENIADAU Mosesywyr ysgrifeniadau hynaf yn y Beibl, a'r hynaf yn y byd. Mae argraff ddyfnach o hynafiaeth ar yjr ysgrifeniadau hyn nag y geir ar ddim ysgrifeniadau yn mhlith dynion. Ond er eu heneidd-dra, nid ydynt wedi colli eu buddioldeb; ond y pethau a ysgrifenwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt. Byddai Crist yn gwn- euthur defnydd o ysgrifeniadau Moses. " Gan ddechreu ar Moses a'r holl brophwydi, efe a esboniodd iddynt yr holl ysgrythyrau y pethau am dano d hun." Mae yr hanes yn y benod hon yn addysg hynod i ni. Cawn yma hanes galarus am gwymp Israel i eilunaddoliaeth, Yr oedd Moses yn y mynydd gyda Duw ; ac wrth ei weled ef yn aros yno yn hir, dros yspaid mis o amser, aeth y bobl yn hynod o anes- mwyth am dano, ac aethant at Aaron, gan ddywedyd, " Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen : canys y Moses hwn, y gwr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono." A dyma Aaron yn cydsynio a'u cais, ac yn dywedyd^ "Tynwch y clust-dlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a'ch meibion, a'ch merched, a dygwch ataf fi." Mae rhai wedi bod yn ceisio esgusodi Aaron, gan feddwl ei fod yn gofyn am y tlysau aur, y pethau gwerthfawrocaf yn eu golwg, oddiar ddisgwyl iddynt eu nacau. Ond y mae yr holl hanes yn dangos fod Aaron yn hyn wedi pechu yn fawr; ar amnaid y bobl, efe a'i harweiniodd