Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPOD CYJftRÜ. Rhif 125.] MAI, 1897. [Cyf. XI. Y Ddeddf yn Llefaru a'r Deiliaid yn Tewi. Gan y Parch. Charles Dayies, Caerdydd. " Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynag y mae y ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd ; fel y cauer pob genau, ac y byddo yr holl fyd dan farn Duw." Rhuf. viii. ig. AE yr apostol yn yr adnod hon a'r un ddilynol yn gorphen dangos euogrwydd a phechadurusrwydd y teulu dynol. Y màe wedi bod yn dangos yn y benod gyntaf mor bell yr oedd y cenhedloedd yn teithio oddiwrth Dduw, ac mor ddwfn yr oeddynt wedi syrthio mewn pechod, ac mor ddi-obaith i ddod byth i fyny. Ac y mae wedi profi hefyd yn yrail benod, ac yn nechreu y benod hon, nad oedd y genedl oedd wedi ei fTaírio gymaint, sef y genedl Iuddewig, ddim gwell er fod eu breintiau hwy yn fwy: yr oeddynt wedi camddefnyddio y breintiau, ac fel y byd paganaidd wedi eu cael yn euog gerbron Duw. Y mae newydd fod yn dyfynu o Ysgrythyrau yr Hen Destament, yr Oracl Ddwyfol a fawr berchid gan yr Iuddewon, ac a gadwyd fel trysor gwerthfawr ganddynt,—y mae newydd fod yn dyfynu geiriau sydd yn gosod allan gwbl lygredigaeth dynion —pawb. Pawb o'r genedl etholedig ? Ië, a phawb eraill, " Nid oes neb cyfiawn, nac oes un," dim un yn unlle. Yn ofer yr ed- rychi i unrhyw gorlan, i blith unrhyw bobl, mewn unrhyw wlad. " Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol." A dyma ydyw y terfyniad, " Fel y cauer pob genau, ac y byddo yr holl fyd dan farn Duw." Wel, meddai rhywun, sut yr ydych yn gallu siarad [Ysgrifenwyd wrth ei gwrandaw. Corris, nos Fercher, Medi 26, 1896.—J. R. E.]