Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPDD CYJWRÜ. Rhif 123.] MAWRTH, 1897. [Cyf. XI. TADOLAETH DUW. Gan y Parch. DAVID OWEN JONES, Llanrhaiadr. " Ein Tad, yr hwn wyt yn y Nefoedd." Mathew vi. g. MAE un awdwr wedi dweyd mai " Ysyniad uwch- af o eiddo y meddwl dynol ydyw y syniad am Dduw." Ac fe ellir yn briodol ychwanegu, mai y syniad uwchaf am Dduw ydyw y syniad am dano fei Tad. Ac eto, hwn oedd un o'r gwirioneddau olaí ddysgwyd gan Dduw i ddynion. Yn Iesu Grist yn unig y datguddiwyd, yn ei eglurder a'i ogoniant mawr, y gwirionedd am Dadolaeth yranfeidrol. Mae'n wir y cafwyd ambell i gip-drem arno cyn hyn. Deuai i'r golwgyn achlysurol o dan yr Hen Destament, fel rhywseren dyner yn dod allan o gysgod y cymylau, ond fel hithau i gael ei orcli- uddio yn fuan drachefn. Cafodd y Psalmydd gip-olwg arno un diwrnod. " Fel y tosturia tad wrth ei blant," meddai, " felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef." Ond eithriad oedd hyn. Prin a chynil ydywcyfeiriadau yr Hen Destament at Dduw fel Tad. Ond yn mherson a gweinidogaeth yr Arglwydd Iesu y mae'r gwirionedd melus íod Duw yn Dad wedi ei ddat- guddio yn ei holl brydferthwch a'i dynerwch. Fel Tad yr hoffai Iesu Grist son am Dduw amlaf. Y mae'r gair Tad fel enw ar Dduwyn digwydd gynifer a dwywaithar bymthegyny bregethar y mynydd yn unig. " Llewyrched felly eich goleuni gerbron dyn- ion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tadyt hwn sydd yn y nefoedd." '* Byddwch chwi gan hyny