Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPÜD CYJVIRÜ. Rhif 122.] CHWEFROR, 1897. [Cyf. XI. "Y GWAS ANFUDDIOL."* Gan y Parch. ABRAHAM ROBERTS, Llundain. " A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf ; yno y bydd wylofain a rhincian danedd." Math. xv. 80. "V ~7t "jTRTH ddarllen dedfryd mor ofnadwy yn ei V V llymder, naturiol gofyn,—Pa ddrwg a wnaeth y dyn hwn ? A ydoedd yn adnabyddus fel drwg- weithredwr ? A oes hanes iddo gyflawni erchyll- derau a barent ddychryn drwy yr holl wlad ? Yn ol yr egwyddor fod cospedigaeth yn cael ei mesur gan faint y trosedd, buasid yn disgwyl fod y gwas hwn yn hysbys fel y cymeriad mwyaf anfad yn ei oes,—ei fod yn euog o bob drwg ag y mae dynion drwg, fel rheol, yn euog o honynt. Eithr nid oes dim o'r fath yn cael ei roddi yn ei erbyn ; ni ddywedir ei fod yn feddwyn, nac yn Ueidr, nac yn !odinebwr, nac yn llofrudd. Ac hyd yn nod yn y cymeriad o " was " gellid meddwl ei fod yn sefyll yn barchus o'i gymharu a gweision ereül y sonir am danynt yn yr hanes efengylaidd. Ni roddir yn ei erbyn ei fod yn oruchwyliwr anghyfiawn ; ni ddywedir ei fod fel y "gwas drwg hwnw" yn curo ei gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon, nac ychwaith mewn dyled o ddeng mil o dalent- au, fel y gwas anrhugarog. Er hyny cyhoeddir arno y ddedfryd dostaf y gellir meddwl am dani: " A bwriwch allan y gwas an- fuddiol i'r tywyllwch eithaf." Nid yw yn bosibl darllen y geiriau heb fod yr ymofyniad yn cyfodi yn y meddwl, ' Pa beth yn ei hanes aalwai am ddedfryd mor drom ?' *A draddodwyd yn Nghymdeithasfa Caernarfon, Aivst 1893.