Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPÜD CYJWRO. Rhif 120.] RHAGFYR, 1896. [Cyf. X. IESU GRIST yn Ddelw Duw, yn Greawdwr y byd, a Gwaredwr dyn. Gan y Prifathraw OWEN PRYS, M.A., Trefecca.* " Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur: Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bymag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysog- aethau, ai meddianau ; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd-sefyll. Ac efe yw pen corph yr eglwys; efe yr hwn yw y dechreuad, y cyntaf-anedig oddiwtth y meirw : fel y byddai efe yn blaenori yn mhob peth." Colossiaid i. 15—18. R wyf am aros eto o hyn i ddiwtdd y Cyfarfod Misol gyda Pherson ein Harglwydd Iesu Grist, oherwydd hwn yw sylwedd ein hefengyl ni. Ynddo Ef y mae pob petli i bechadur. Ac y mae yr adran wyf wedi ddarllen yn un o'r rhai pwysicaf yn yr oll o'r Testa- ment Newydd, oherwydd yma yr ydym yn cael ei hegluro yr Athrawiaeth sydd yn dwyn perthynas a Pherson ein Harglwydd IesuGrist, ac y maeyr Athrawiaeth hono yn cael ei hegluro mewn tair o wahanol agweddau. Mae perthyn- as yr Arglwydd Iesu a thri gwrthddrych mawr. Y tri gwrthddrych mawr ag y mae a fyno a hwy ydynt—Duw, y Byd, a'r Dyn. Ac y mae ei berth^nas a phob un o'r tri yn cael ei egluro i ni yn y geiriau hyn. Pa beth yw perthynas Crist â Duw ? " Efe yw delw y Duw anweledig." Pa beth yw perthynas Crist â'r Byd a'r Greadigaeth ? " Trwyddo Ef, ac erddo Ef, y crewyd pob peth." [*Ysgrifenwyd y Bregeth hon wrth ei gwrandaw gan J. R. E. yn cedfa olaf Cyfar- fod Misol y Bala, Ionawr 4ydd, 1893. Ar ddechreu y bregeth traddodrád y Prifathraw anerchiad grymus ar ran y Forward Mo\ement.~\