Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPUD CYJftRU. Rhif 118.] HYDREF, 1896. [Cyf X. ONID OEDD RAID 1 GRIST DDIODDEF ? Gan y Diweddar Barch. DR. OWEN THOMAS, Lerpwl. " Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mswn i'w ogoniant ?" Luc xxiv. 6. MAE y geiriau hyn, fel y darfu i chwi sylwi ar ddarlleniad y be.iod ar ddechreu y cyfarfod, yn rhan o'r adroddiad a roddir i ni yma gan yr Efengyl- wr Luc arn yr ymddiddan dyddorol a gymerodd le rhwng Iesu Grist a dau o'i ddisgyblion, ar y ffordd o Jerusalem i Emaus, ar brydnawn y dydd yr adgyf- ododd Efe o feirw. 'Does genym ddim o hanes y ddau ddisgybl hyn, nac unrhyw wybodaeth pwy allent fod. Mae enw un o honynt genym, Cleopas. Pwy oedd hwnw sydd eto yn ansicr. Tybir gan nifer o'r beirniaid galluocaf mai nid ÿr un un oedd a'r Cleopas y darllenir am dano yn Efengyl Ioan. Rhywun ydoedd, mae'n ddiameu, ag oedd yn ddisgybl i'r Iesu. Am y llall, does dim sicrwydd. Tybia rhai, oblegyd y dyddordeb mawr ac amlwg a gymerir gan yr Efengylwr ei hunan yn yr adroddiad, yn yr hanes, mai efe ei hunan ydoedd. Ond y mae yr Apostol Paul yn y Llythyr at y Colossiaid yn cyfrif Luc yn mhlith Cen- hedloedd ; ac os felly, y mae yn bur sicr nad Cenedl-ddyn oedd hwn. Yr oedd y ddau, mae'n amlwg, yn ddisgybìion i Iesu Grist, ac yn teimlo yn' gynes tuag ato, ac wedi bod cyn hyn, ac fe ddaeth- ant ar ol hyn, i ddisgwyl pethau mawrion trwyddo. Pa'm yr oedd- ynt yn myned y prydnawn yma i Emaus, i'r dref fechan hon rhwng saith neu wyth milldiro Jerusalem, sydd yn sicr braidd yn ddieithr. Mae rhai yn tybio mai gwrthgilio yr oeddynt. Ond dydyn' nhw ddim yn gwrthgilio yr un fath a dynion yn gyffredin. Yr oeddynt yn teimlo yn gy»es jawn at eu Harglwydd, a'u medd-