Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PÜLPÜD CYJWRÜ. Rhif 117.] MEDI, 1896. [Cyf. X. PERTHYNAS yr EGLWYS a'r YSGOL SABBOTHOL. Gan y Parch. D. SILYN EVANS, Aberdar, " Wele, Iuddew y'th elwir di, ac yr wyt yn gorphwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw: ac yn gwybod eì ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol gan fod wedi dy addysgu o'r ddeddf ; Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i'r deülion, yn llewyrch i'r r'hai sydd mewn tywyllwch, yn athraw i'r anghall, yn ddýsg- awdwr i'r rhai bach, a chenyt ffurf y gwybodaeth a'r gwirionedd yn y ddeddf." Rhuf. 11. 17—20. MAE 'R Apostol yn yr adnodau hyn yn siarad a'r Iuddew mewn ffordd ymresymiadol, ac yn ei gym- eryd yn gynrychiolydd i'r Eglwys Iuddewig. Hawlia hon iddi ei hun sefyllfa anrhydeddus a rhagorfreintiau pwysig. Daw yr ysbryd balch ac • ymffrostgar hwnw i'r golwg yn yr adnodau dan sylw. " Wele, Iuddew y'th elwir." Teitl o urddas mawr, a phwysigrwydd nid bychan. . " Ac yr wyt yn gorphwys yn y ddeddf"—yn ymddiried am gymeradwyaeth Duw yn yr ys- tyriaeth fod y ddeddf wedi cael ei rhoddi iddi hi fel cenedl, ac nid i un arall. "Ac yn gorfoleddu yn Nuw"—yn ymfalchio ei bod yn meddu gwybodaeth helaeth o briodoleddau Duw, ac nid mewn tywyllwch fel y cenedl ddyn. "Acyngwybod ei ewyllys Ef"— wedi ei ffafrio a datguddiad ysgrifenedig o'i orchymyn Ef. " Ac yn darbod pethau rhagorol"—yn profi pethau a gwahaniaeth rhyngddynt, megys y da a'r drwg, y cyfreithlawn a'r anghyfreith- lawn ; ac wedi eu dwyn i fyny yn y rhai hyn o'u mebyd. Yn ngwyneb yr ystyriaethau crybwylledig (pa rai a gymerai yr apostol yn ganiataol, am eü bod yn eu proffesu, er nad yn ateb iddynt, er mantais i ymresymu a hi), credai eu bod yn gymhwys i fod yn