Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PULPÜD CYJWRÜ. Rhif 116.] AWST, 1896. [Cyf. X. CYNYDDU MEWN CARIAD. Gan y Diweddar Barch. LEWIS EDWARDS, D.D., Bala. "Eitlir, gan í'od yn gywir mewn cariad, cynyddu 0 honom iddo Ef yn mììob peth. yr hwn yw y pen, sef Crist." Ephesiaid iv. 16. PWNC sydd gan yr Apostol yn y benod yma, fel mewn llawer o fanau eraill, ydyw Undeb â Christ Ond nid trin y pwnc y mae yn athrawiaethol yn unig, ond hefyd yn ymarferol. Ac y mae yn dech- reu y benod hon gydag anogaethau i gadw yr un- deb hwn, "Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr ysbryd yn nghwlwm tangnefedd." Y ffordd i gadw yr undeb ydyw yr hyn a ddywedir o'r blaen yma, " rhodio o honoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi, gyda phob gostyngeiddrwydd ac anwyldeb, yn nghyda hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad." Y mae hyn yn beth i'w wneyd gyda golwg ar undeb yr eglwys. Os na fyddwn yn rhodio fel y mae y gair yma yn dweyd, nid yn unig fe fyddwn yn ddiffygiol mewn cadw yr undeb, ond eu rhwystro. Yna y mae yn dyfod a'r athrawiaeth i mewn i gadarnhau y cyngor, " Un corff sydd, ac un ysbryd." Yna rnae yn traethu yn ogoneddus ar y mater hwn, (í Ac un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll." Mae yr undeb yma yn cyraedd trwy y cwbl,—o Dduw i lawr i'r ddaear a'r holl aelodau. Ond undeb mewn amrywiaeth ydyw hefyd. Nid oes dim undeb gwirioneddol heb amrywiaeth, amryw yn un. Mae