Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

POLPDD-CYJftRO. Rhif 115.] GORPHENAF, 1896. [Cyf. X. CRIST yn CYMERADWYO LLWYBR GWASANAETH Gan y Parch. JOHN THOMAS, (A.), Merthyr. '• Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai y cythraul ynddo a ddymun- odd arno gael bod gydag ef Ond yr Iesu ni adawodd iddo ; eithr dy- wedodd wrtho, Dos i'th dy at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi drwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo. A phawb a ryfeddasant." Marc v. 18—20. HYDD yr adnodau blaenorol adroddiad o ymwel- iad o eiddo'r Gwaredwr a gwlad y Gadareniaid, a'r wyrth ryfedd a gyfiawnodd efe yno. Gorwedd- ai y wlad hono i gyfeiriad deheu-ddwyrain Mor Galilea. " Gwlad y Gergesiaid " y geilw Mathew hi yn ei adroddiad ef. Tebyg y cymerai efe yr enw oddiwrth Gergesa, tref fechan ar lan y mor. Yr oedd hyny yn ddigon i'w ddarllenwyr Iuddewig ef, y rhai oeddynt yn ddigon cyfarwydd a daearyddiaeth y cylch. " Gwlad y Gadareniaid " y geilw Marc a Luc hi. Cymerent hwy yr enw oddiwrth Gadara, yr hon a gyfrifid yn brif dref y rhanbarth am filldiroedd lawer o amgylch, ac a orweddai gryn bellder oddiwrth lan ddeheuol y mor. Ýr oedd hyny yn well i'w darllenwyr cen- hedlig hwynt, y rhai fuasent yn debycach o wybod rhywbeth am Gadara nag am Gergesa. Yn fuan wedi i'r Gwaredwr lanio yn ymyl Gergesa, gwelodd, medd yr hanes yma, un wedi ei feddianu gan ysbryd aflan yn rhuthro ato. Dywed Mathew fod yno ddau. Tebyg fod un o honynt yn llawer mwy amlwg a blaenllaw na'r lla.ll, feallai hefyd yn fwy peryglus, ac mai argraffam hwnw a arhosodd yn benaf ar feddyliau y rhai a roddasant yr hanes i Marc a Luc. Rhaid fod yr olwg ar hwnw yn arswydlawn. Wedi bod yn hir mewn sefyllfa anymwybodol, wedi hir esgeuluso ei hun, wedi tori ei hunan yn fynych â cheryg, ac wedi bod yn ymdroi mewn lle- oedd a gyfrifid yn aflan, yr oedd golwg druenus arno yn ddiddadl. Rywsut, adnabyddodd yr Iesu ar unwaith, ie, tra yr oedd efe eto gryn ffordd oddiwrtho, a chyfarchodd ef dan enw newydd—"Iesu Mab y Duw Goruchaf "—gan atolyguarno beidio ei boeni. Hwyr- ach mai cywirach fyddai dweyd i'r ysbryd aflan, drwy y dyn, ad-