Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 114.] MEHEFIN, 1896. [Cyf. X. BUDDUGOLIAETH CRIST Oan y diweddar Barch. CHRISTMAS EVANS. 'Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bozra ?" &c.—Esa. lxiii. i. 'AEy paragraph hwn, sydd yn cynwys chwech o adnodau, yn cynwys y fath ucheledd annynwar- edol, ag sydd yn taro y meddwl a syndod, fel pe clywem lais Duw ei hun yn llefaru o ganol pwlpud y berth losgedig. Darlunir yma ben tywysog y fìlwriaeth megys wedi ei adael gan ei fyddin yn nghanol poethder y frwydr yn y ddinas elynol, eto yn dyfod i fyny ei hun, wedi gwneyd ei lwybr trwy y pyrth pres, ac wedi tori y barau heiyrn ei hunan, a'i wisgoedd wedi eu taenelluâ gwaed y gelynion, ac yntau yn dringo i fyny fel un heb golli y mymryn Ueiaf o'i rym ; ond gyda chamrau gwrol a gwisgi, yn dringo i ben y bryn, at y côr oedd yno yn edrych arno gyda syndod mawr, ac yn ei anerch yn y geiriau, " Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bozra ?" I. At bwy amgylchiad priodol i Grist, ac yn mha GYMERIAD O HONO, Y DARLUNIR EF YMA. II. Sylwadau AR HOLIADAU cor yr Eglwys iddo, a'i ATEBIAD YNTAU IDDO. 1. Pwy amgylchiad y bu, neu y bydd Crist ynddo, sydd yma yn cael ei ddarlunio mor ardderchog ? Mae yma ddarluniad o ryw fuddugoliaeth fawr a enillodd ef yn ninas Bozra, yn nhir Edom, yr hon oedd wedi bod yn elynol iawn i Israel. Mae esbonwyr yn sylwi fod Edom yn myned am Babilon weithiau, a Jerusalem yn cael «si galw, Y ddinas fawr, sef Babilon, a Sodoma,