Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UbPTTO afMil, Rhif 113.] MAI, 1896. [Cyf. X. MAWREDD DUW YN GANMOLADWY. Gan y diweddar Barch. JOHN PETERS, (Ioan Pedr), F.G.S., Bala. " Mawr y\v yr Arglvydd, d chanmoladwy iawn ; a'ifawredd syddanchwiliadwy." Salm cxlv. 3. MAE y Beibl fel llyfr, yn cynwys pob math o gyfansoddiad. Hanesiaeth yw rhanau tra helaeth o hono, megys llyfrau Genesis, y Barnwyr, Samuel a'r Brenhinoedd. Cynwysa Lefiticus a Deuteron- omium gorff o gyfreithiau y deyrnas weledig, ar yr hon yr oedd Duw yn frenin. Dengys enwau llyírau y Diarhebion a'r Pregethwr Ì ba ddosbarth Uenorol y perthynant. Barddoniaeth ydyw y Salmau, Caniadau Solomon, a'r Prophwydi, a dichon y gellir ystyried llyfr Job yn fath o drama, Y mae Ruth, Esther, a'r Efengylau yn tynu at Fywgraffìaeth, a ihan fawr o'r Testament Newydd yn Epistolau neu llythyrau. Eto, y mae y Beibl yn wahanol i lyfrau cyffredin, nid yn unig yn ei ragoroldeb llenyddol, ond hefyd yn neillduolrwydd e{ amcan. Llyfr o addoliad yw. Yn y golwg yma, gellir ei ddos- barthu, efallai, yn ddwy ran :—Y cyfangorff mawr o hono wedi ei addasu i gynyrchu teimladau addolgar yn y galon ; a rhanau llai yn gymhwys \fynegu y cyfryw deimladau. Daliwn oll fod gwell pregethau, gwell llythyrau, gwell barddoniaeth, a gwell hanes yn yBeibl nag mewn unrhyw lyfr arall; eto, nid y'mam anghefnogi cyfansoddi rhai eraill. Nid y'm ychwaith am rwystro cyfansoddi a chyhoeddi, ac arfer yn ein cynulleidfaoedd fawl ffurfiol drwy emynau dynol; ond, ar yr un pryd, yr y'm yn credu mai y