Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PU&3ró& ©'Tüm'ör, Rhif ii2.] EBRILL, 1896. [Cyf. X. Y CYFAMOD NEWYDD. Gan y diweddar Barch. WILLIAM ROBERTS, Llanrwst. " Üblegyd hwn yw y cyfamod a amodaf fi â thy Israel ar ol y dyddiau hyny, medd yr Arglwydd; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl,. ac yn eu calonau yr ysgrifenaf hwynt, a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minau yu bobl.." Heb. viii. 10. TN mhlith y lluaws cyfamodau rhwng Duw a dynion y mae dau yn sefyll ar wahan i'r lleill, ac yn gyf- erbyniol i'w gilydd ; sef, y cyntaf a'r ail, neu yr hen a'r newydd. Yr hen yw y cyfamod a wnaeth Duw ag Israel wrth Sinai, a'r newydd yw y cyfamod a wna a'i bobl dan yr efengyl ar sail aberth Crist. O ran hanfod, yr ail yw y cyntaf, a'r newydd yw yr hen ; oblegyd ei fod yn oruchwyliaeth o'r cyfamod gras, ac felly yn bod erioed. Nid oedd cyfamod Sinai ond is- wasanaethgar i hwn, ac mewn tymhor byr, fel pobpeth amser, aeth yn hen, a llesg, ac afles, er iddo wneyd gwaith da yn ei dymhor. Ond y mae y cyfamod newydd yn " hen ddihenydd ' fel Duw ei hun—heb heneiddio er myned yn hen ; ac yn newydd o ran y ffurf sydd iddo yn awr trwy waith Crist. Y prif wahaniaeth, feallai, rhwng y ddau gyfamod yw, fod pwys y cyntaf ar ochr dyn, a phwys yr ail ar ochr Duw. Yr oedd der- byniad y genedl o fendithion y cyntaf yn dibynu ar ei ffyddlon- deb i'w hymrwymiadau, fel yr oedd ar ei llaw hi ei ddiddymu, a'i ddiddymu a wnaeth, " Oblegyd ni thrigasant hwy yn fy nghyfam- od i, minau a'u hesgeulusais hwythau, medd yrArglwydd" (Heb. viii. 9) ; " Yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei dd> ddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr Arglwydd," (Jer. xxxi. 32). Gan i'r genedl esgeuluso Duw esgeulusodd Duw