Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhip 111.] MAWRTH, 1896. [Cyf. X. ANCHWILIADWY OLUD CRIST. Gan y diweddar Barch. JOHN THOMAS (B), Caerfyrddin. " I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ol rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ol grymus weithrediad ei allu Ef. I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhodäwyd y gras hwn, i efengylu yn mysg y cenhedloedd anchwiliad- wy oíud Crist." Eph. ■ n, 7—8 'RAETHAyr apostol ar oruchwyliaeth gras.Duwtuag; at y cenedloedd, yn nghyd a'r offer.yn • a ddefftydd- iodd i weinyddu y gras hwn. Bwriad:neu gynghor. Duw oedd gwneyd y cenhedloedd "yn gyd-etifedd_- ion, yn gydgorph, ac yn gydgyfranogion o'i addewid Ef yn Nghrist trwy yr Efengyl," rhoddi hawl, cym- hwysder, a chyfran o'r wledd. Yr offeryn enwog a ddefnyddiodd i ddwyn oddiamgylch y chwyldroad mawr oedd, Paul o Tarsns. Mewn trefn i sylweddoli bwriad Duw yn ei berthynas a'r byd cenhedlig, rhaid oedd efengylu iddynt. Cyn efengylu rhaid oedd wrth bregethwr cyfaddas o ran gallu a gras at y gwaith. Y mae cyfaddasder arbenig yn holl offerynau Duw i'r gwaith sydd ganddo iddynt. Nid yw byth yn gosod gweithiwr eiddil i wneyd gwaith gwron, neu yn gosod cyfrifoldeb mawr ar ysgwydd wan. Nid yw byth yn planu corsen, Ile byddo eisio derwen ; lle byddo byd i'w oleuo, nid llusern a osoda yn y nen, ond haul mawr a'i oleuni fel diluw yn llanw y greadigaeth ; lle bo gwlad fawri'w dyfrhau, denfyn Duw afon lifeiriol gref at y gwaith. I adeiladu yr Arch, ac i bregethu i'r cynddiluwiaid, pwy allasai fod yn fwy cyfaddas na Noah, pregethwr cyfiawnder; i waredu y Uwythau o gaethiwed yr Aipht, ac i sefydlu gwladwriaeth Israel,